Abaca yw’r unig gwmni yn Ewrop a’r Deyrnas Gyfunol sy’n cynhyrchu matresi organig wedi’u hardystio gan Gymdeithas y Pridd. Rydym yn cynhyrchu matresi i’r teulu cyfan gan ddefnyddio cotwm organig a’r gwlân Cymreig organig puraf o ffermydd defaid ar fryniau prydferth ein gwlad.
Yn wahanol i fatresi eraill, sy’n defnyddio ffabrigau synthetig, mae matresi Abaca yn cynnwys deunyddiau naturiol ac maen nhw’n bodloni’r prawf deunydd gwrthdan EN5971–2 (BS 7177) heb orfod defnyddio cemegau. Does dim plaladdwyr na chwynladdwyr yn cael eu defnyddio i gynhyrchu’r ffabrig cotwm ac mae pob matras organig yn cael ei gwnïo a’i gorffen yn ofalus â llaw.
Ar ôl cael eu harchebu, bydd ein matresi moethus, sydd wedi’u hardystio gan Gymdeithas y Pridd, yn cael eu gwneud â llaw. Maen nhw ar gael ym mhob un o feintiau safonol y DG ac Ewrop ac mae modd eu gwneud yn unol â gofynion personol arbennig hefyd.
Mae’r dewis nursery sy’n cael ei gynnig gan Abaca yn golygu y gall y teulu cyfan gysgu’n gyfforddus ar fatras organig sy’n rhydd o gemegau.
I gael dyfynbris ar gyfer cyflenwi matras, byddwch cystal â chysylltu â ni a rhoi’ch cyfeiriad llawn.
Yn Abaca rydym yn credu y dylid cadw popeth yn syml. Rydym yn gwneud ein matresi â sbringiau poced â llaw - ac yn defnyddio sbringiau o´r safon gorau wedi’u lapio a’u fframio. Yna bydd haenau o wlân organig yn cael eu gwnïo’n ddiogel ar y ffrâm er mwyn rhoi gwres, cysur a gwydnwch.
I gwblhau’r gwaith, bydd gorchudd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o gotwm organig ac wedi’i gudynnu â llaw, yn cael ei roi ar y fatras.
Daw latecs naturiol o sudd hufennog y goeden hefea. Bydd y sudd yn cael ei brosesu’n lân i wneud y padiau sy’n cynnal ein matresi Abaca Ramsey.
Mae’r fatras yn mowldio i siâp eich corff yn y mannau cywir a gall fod yn arbennig o addas i bobl â chymalau anystwyth. Mae’n eich cynnal yn dyner ac yn gwneud yn siwr eich bod yn cael noson dda o gwsg.
Mae’r latecs yn cael ei lapio mewn haenau o wlân organig a rhoddir gorchudd cotwm organig dros y cyfan. I gwblhau’r broses, mae’r gorchudd yn cael ei gudynnu â llaw er mewn rhoi golwg a chyffyrddiad moethus i’r fatras.
Dim ewyn, dim cemegau artiffisial, dim ond deunyddiau naturiol pur.
Mae matras Abaca Chester yn cynnal fel latecs ond mae iddi’r manteision gwaelodol o sbringiau poced. Rydym yn cyfuno haenau o latecs naturiol â’r sbringiau poced sydd yn ein matras Snowdon. Rydym yn ychwanegu haenau o wlân organig meddal at yr haenau o latecs ac yna’n gorchuddio’r cyfan â gorchudd cotwm organig sydd heb ei gannu a heb ei liwio. I orffen y fatras ddofn a chyfforddus, mae’r gorchudd yn cael ei gudynnu â llaw.
Mae modd hefyd i wneud y Chester yn fatras Dim Troi.
Rydym yn gwneud ein matresi organig pur ar gyfer cotiau, cewyll Moses a gwelyau plant heb ddefnyddio deunyddiau synthetig nac ychwanegu cemegol. O’r dechrau oll, gallwch ddiogelu’ch plentyn rhag gweddillion plaladdwyr niweidiol a gweddillion cemegol diangen.
Rydym yn defnyddio ffibr rhisgl coconyt, sy’n ystwyth a gwydn, ar gyfer canol y fatras. Mae gwlân Cymreig organig yn golygu bod y fatras yn feddal ac yn gallu anadlu. Haenau o ddefnydd wedi’i gwnïo â llaw ac wedi’u gorchuddio â gorchudd meddal, cryf a hirhoedlog.